Business
Llaethdy mwyaf Cymru yn croesawu elusen Tuk-Tuk sy’n cael ei rhedeg gan gyd-laethdy o Loegr
Mewn ymgais i godi arian ar gyfer BBC Plant Mewn Angen, mae sylfaenwyr Millbrook Dairy, David Evans a Kevin Beer, yn gyrru Tuk-Tuk wedi’i addurno â darn anferth o gaws o’u pencadlys yn Bideford, Dyfnaint i Ynysoedd Erch yn yr Alban, gan deithio 1,600 o filltiroedd a stopio 29 gwaith ar hyd y ffordd.
Un cease arbennig yng Nghymru oedd ymweld â llaethdy cydweithredol mwyaf y wlad, Hufenfa De Arfon, ym Mhwllheli ar ddydd Sul 15 Medi.
Dywedodd Shôn Jones o Hufenfa De Arfon, “Roedd eu gwylio nhw’n cyrraedd yn olygfa wych. A hwythau’n feistri graddio caws, cawson nhw gyfle i gwrdd â’n tîm, blasu ein cawsiau, a rhannu ein hangerdd am gynnyrch llaeth o ansawdd uchel.
“Mae’n her fawr ac rydyn ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw ar weddill eu taith i’r Ucheldiroedd. Siwrne saff!”
Dywedodd Kevin Beer, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Cwmni Llaeth Millbrook, “Roedd hello’n wych ymweld â Hufenfa De Arfon – am ran hyfryd o’r byd.
“Y stori tu ôl i’n taith yw ei bod hello’n bumed pen-blwydd arnon ni eleni, ac roedden ni eisiau gwneud rhywbeth gwahanol i allu rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymdeithas – dyna’r rheswm tu ôl i’n syniad Tuk-Tuk gwallgof!
“Mae ein Tuk-Tuk yn hawdd ei adnabod. Yn ogystal â chodi arian ar gyfer BBC Plant Mewn Angen, rydyn ni’n awyddus i gael ychydig o hwyl felly bydden ni wrth ein bodd i bobl gymryd rhan a rhannu eu lluniau ar ein cyfryngau cymdeithasol os ydyn nhw’n gweld y Tuk-Tuk. Ni yw @millbrookdairy ar Instagram #TukTukChallenge.
“Yn ogystal â chodi arian at achos gwych, rydyn ni’n blasu cawsiau anhygoel ar hyd y ffordd gan gynhyrchwyr gorau’r DU. Rydyn ni’n mwynhau pob eiliad, er ei fod wedi gwneud i ni werthfawrogi’r cysur rydyn ni i gyd yn ei gymryd yn ganiataol yn ein cerbydau arferol. “
Ychwanegodd David Evans, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Millbrook Dairy Firm, “Hyd yn hyn, rydyn ni wedi codi dros £10,000 ar gyfer Plant Mewn Angen sy’n elusen anhygoel sy’n helpu ariannu miloedd o brosiectau ym mhob cornel o’r DU. Mae ein teulu a’n ffrindiau eisoes wedi ein noddi, ac mae rhai o’n cyflenwyr a’n cwsmeriaid gwych wedi ein cefnogi hefyd, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd y codi arian yn parhau i dyfu drwy gydol ac ar ôl ein taith. Os hoffech ein noddi, ein tudalen JustGiving yw: https://bit.ly/MillbrookTukTukChallenge.”
-
Business4h ago
Why US home insurance rates are rising so fast – hurricanes and wildfires play a big role, but there’s more to it
-
Business14h ago
How One Company is Using 3D Printing and AI to Make Sports Cars More Efficiently
-
Business14h ago
Why Vinod Khosla Is All In on AI
-
Business1d ago
Why home insurance rates are rising so fast across the US – climate change plays a big role
-
Business1d ago
Celebrity brands: Why fame alone isn’t enough to keep them afloat anymore
-
Business1d ago
The Best and Worst North American Airports Ranked
-
Business2d ago
Two Big Brands Will Move into the Newburgh Mall
-
Business2d ago
Why Your Pharmacy Experience Is Miserable