Business
Rafflau’n hybu Apêl codi arian
Mae’r Apêl wedi cael hwb ariannol diolch i ddwy raffl gyda rhai gwobrau hael iawn!
Cefnogodd Jennings Solicitors Llanelli yr Apêl drwy gynnal raffl o wobrau a roddwyd gan employees.
Hyrwyddwyd y raffl gydag arddangosfa ardd yn y dderbynfa a chodwyd dros £270 ar gyfer yr Apêl.
Dywedodd James Hogg, sy’n Bartner yn y cwmni cyfreithiol: “Hoffem ddiolch i bawb a gefnogodd y raffl, gan gynnwys employees a roddodd wobrau, a chleientiaid a roddodd mor hael.
“Bydd cael gerddi therapiwtig ar gyfer y ddwy ward yn Ysbyty Tywysog Philip yn gwneud cymaint o wahaniaeth i gleifion a employees. Rydym yn falch iawn o gefnogi achos mor werth chweil.”
Yn y cyfamser, mae raffl a gynhaliwyd gan wardiau Bryngolau a Mynydd Mawr er budd yr Apêl wedi codi dros £400.
Ymhlith y gwobrau roedd tocyn teulu Rygbi’r Scarlets, hamperi, a thalebau ar gyfer nifer o siopau a gwasanaethau lleol.
Dywedodd Lisa Howells o ward Bryngolau: “Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd ein raffl drwy brynu tocyn, rydym wrth ein bodd ein bod wedi codi cymaint tuag at yr Apêl.
“Mae pob rhodd tuag at y gerddi newydd yn golygu cymaint a bydd yn ein helpu i gyrraedd ein nod.
“I’r holl enillwyr, llongyfarchiadau – a gobeithio y byddwch yn mwynhau eich gwobrau!”
I gael rhagor o fanylion am Elusennau Iechyd Hywel Dda a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a employees lleol y GIG, ewch i www.hywelddaHealthcharities.org.uk
-
Business17h ago
Protecting Your Pet Business: The Critical Role of Comprehensive Insurance
-
Business23h ago
Unleashing Performance: The Advantages of High-Powered GPU Dedicated Servers
-
Business23h ago
Due Diligence in M&A: Best Practices from Inc & Co for Success
-
Business1d ago
The Price of Truth: Fozia Rashid’s Challenges and Triumphs as a Whistleblower
-
Business2d ago
How FedEx CEO Raj Subramaniam Is Adapting to a Post-Pandemic Economy
-
Business2d ago
New Yorkers No Longer Able To Purchase Once-Popular Boar’s Head Meat
-
Business2d ago
New appointment to help Welsh companies’ commerce ambitions
-
Business2d ago
Striking Boeing Factory Workers Ready to Hold Out for Better Contract