Connect with us

Business

BUSNESAU BACH yn dangos cariad tuag at asiantaeth fenter am greu cyfloedd twf a ffyniant yng ngorllewin Cymru

Published

on

/ 2089 Views

Gyda chefnogaeth Antur Cymru, llwyddodd masnachwyr y rhaNBArth dderbyn grantiau gan Gronfa Cynnal y Cardi, a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae dau gwmni’n arbennig – Brodwaith Tysul Embroidery, a Cariad Glass – wedi mynd o nerth i nerth ers cyfnod y pandemig ac wedi derbyn cymorth ychwanegol gan dimau prosiect Cefnogi Busnes Lleol a Busnes SMART.

Cariad Glass

Wedi’u lleoli yn Llandysul, canmolwyd Antur Cymru gan y ddau gwmni am yr arweiniad a’r cyngor a gafwyd ac am eu helpu i droi eu “breuddwydion yn realiti”.

Sefydlwyd Cariad Glass gan y gŵr a’r wraig, Justine a Chris Dodd. Maent yn arbenigo mewn peintio gwydr lliw ac yn cynhyrchu anrhegion, a mwy.

“Wnaethon ni gysylltu ag Antur Cymru mas o ddiddordeb yn fwy na’r angen ar y pryd ond ry’ ni mor falch ein bod ni wedi gwneud” meddai Justine, sydd ei hun wedi cyrraedd rhestr fer y categori Ffotograffiaeth, Celf a Dylunio yng Ngwobrau Llais, Merched Cymru Mewn Busnes eleni.

Cariad Glass

“Wnaethon nhw ein cefnogi mewn cymaint o ffyrdd, o geisio am grantiau i werthuso ein marchnata a’n gwefan. Wnaethon nhw hyd yn oed sefydlu systemau monitro ansawdd aer a chyfrif ymwelwyr i ni.”

Ychwanegodd: “Ry’ ni’n teimlo’n fwy hyderus gyda’n strategaeth brisio, ein cynnyrch a’n cynigion.  Erbyn hyn, yn ogystal â’n gwaith gwydr lliw traddodiadol a chomisiynau ac adfer ry’ ni hefyd yn cynnig hyfforddiant i grwpiau bach o bobl sy’n teithio o bob rhan o’r DU – ac un myfyriwr o America hyd yn oed – i gymryd rhan yn ein dosbarthiadau sy’n gwerthu mas bob tro.

“Ac ers symud i’n safle newydd, sydd ar agor i’r cyhoedd, mae gennym oriel ar gyfer arddangos gwaith dros 20 o artistiaid lleol ochr yn ochr â’n stiwdio waith.

“Allwn ni ddim diolch digon i Antur Cymru; mae gweithio gyda phawb wedi bod yn anhygoel.”

Brodwaith Tysul

Adleisio’r sylwadau hyn wnaeth Abby Reid, perchennog Brodwaith Tysul a wnaeth hefyd sicrhau grant trwy Gronfa Cynnal y Cardi.

Yn ogystal ag ehangu ei busnes brodwaith, ei dymuniad oedd annog arloesedd a chefnogaeth i fasnachwyr eraill yn y dref.

“Wnes i siarad ag Antur Cymru am syniad ar sut i adfer Stryd Fawr Llandysul ac roeddent yn gefnogol iawn,” meddai Abby.

“Ar y pryd roeddwn i’n hapus yn fy swydd yn gweithio mewn cegin ysgol, ond roeddwn i wedi breuddwydio am ddechrau’r fenter hon ac roedd gen i’r symbyliad i’w wireddu.

“Dechreuais drwy fynychu sesiynau wythnosol defnyddiol iawn gydag Antur Cymru a dysgais sut i gostio busnes, sut i gadw llygad am gyfleoedd a sut i lunio fy ngwasanaethau o amgylch fy mywyd a’m hanghenion.”

Ychwanegodd: “Trwy’r gefnogaeth a dderbyniais rwy’n hyderus gyda’r model ac erbyn hyn, gydag ychwanegiadau at y grŵp, mae gennym ‘gornel greadigol fach hyfryd’ ar y stryd fawr. 

“Mae Antur Cymru wedi mireinio fy ngêm drwy fod yn gefnogwr brwd ac yn hyfforddwr. Maent wedi annog, rhybuddio, cwestiynu a dathlu pob cam a nawr dwi’n ymdrechu i wneud yr un Peth i’r rhai o’m cwmpas i – diolch!”

Bwriad Cynnal y Cardi yw cefnogi ac ymgysylltu â phobl, busnesau a chymunedau lleol i ddarparu atebion cynaliadwy i fynd i’r afael â rhai o’r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n wynebu ardal Ceredigion.

Mae’r gronfa hefyd yn canolbwyntio ar wella’r seilwaith cymunedol presennol, cynnal gweithgareddau peilot ac astudiaethau dichonoldeb, buddsoddi mewn meithrin gallu a chefnogi’r angen am seilwaith digidol, a mwy.

Am fwy o wybodaeth am Antur Cymru, ewch i’r wefan www.anturcymru.org.uk a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @AnturCymruWales.

Neu, ffoniwch 01239 710238 neu e-bostiwch [email protected].

Trending